Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Hydref 2020
Amser:
09.04 -
09.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Busnes yr Wythnos Hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau i agenda dydd Mawrth – bydd dau ddatganiad yn awr yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, er mwyn gwneud lle i ddadl ar gyfnod atal byr coronafeirws, y mae angen atal y Rheolau Sefydlog ar ei gyfer.
Canllawiau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd canllawiau diwygiedig ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid yn cael eu dosbarthu, yn dilyn ei dyfarniad yr wythnos diwethaf y dylai Aelodau ymatal rhag defnyddio deunydd hyrwyddo fel cefndir yn Zoom.
Pleidleisio - datganiadau llafar
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau mai dim ond fel datrysiad mewn argyfwng y gellir pleidleisio ar lafar pe bai Aelod yn cael problemau annisgwyl gyda'r ap pleidleisio. Dylai Aelodau ymuno o leoliad a dyfais a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r ap.
Newidiadau i grwpiau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn ystyried y cais gan dri Aelod i ffurfio Grŵp Cynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio. Nid yw grŵp Plaid Brexit yn bodoli mwyach.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth 3 Tachwedd
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (30 munud)
· Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (15 munud)
Dydd Mawrth 10 Tachwedd
·
Datganiad gan y Prif Weinidog:
Cyflawni'r Strategaeth Ryngwladol (45 munud)
- Gohiriwyd
·
Datganiad gan y Dirprwy
Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Cofio a pharhau â'n
cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog (45 munud)
- Tynnwyd yn
ôl
·
Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig (15 munud)
- Gohiriwyd
·
Dadl: Cyfnod 3 ar y Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (180
360 munud)
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd yn cynnig bod y ddadl ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Farchnad Fewnol yn cael ei chynnal ar 24 Tachwedd 2020.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddileu dadl grŵp Plaid Brexit a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 4 Tachwedd ac i drefnu'r eitemau busnes canlynol:
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, gan fod wythnos gyntaf busnes y Cyfarfod Llawn ar ôl hanner tymor yn ystod ail wythnos cyfnod atal byr y coronafeirws (3 a 4 Tachwedd), y byddai'r trafodion yn cael eu cynnal yn rhithwir (h.y. gyda'r holl Aelodau'n cymryd rhan ar Zoom). Byddai busnes yn cael ei gyfyngu i faterion sy’n dyngedfennol o ran amser lle y bo'n bosibl, gyda phleidleisiau lle bo angen. Byddai'r llywodraeth yn adolygu'r busnes a drefnwyd ar gyfer 3 Tachwedd, gyda newidiadau ar ôl i'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes gael ei gyhoeddi.
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 2 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 2 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod estynedig ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 11 Ionawr 2021. Caiff hyn ei ymgorffori yn amserlen y pwyllgorau ar gyfer tymor y gwanwyn y bydd y Pwyllgor Busnes yn ei ystyried ar ôl hanner tymor.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog - Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell
Newidiadau i Reolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad a chyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 4 Tachwedd 2020.
7 Busnes y Senedd
7.1 Dethol gwelliannau
Unrhyw Ddethol Gwelliannau eraill
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y canllawiau diwygiedig, yn amodol ar y newidiadau y cytunwyd arnynt i'r drafft mewn perthynas â rheoli amser a chymorth.
Unrhyw Fater Arall
Cyfarfod y Pwyllgor Iechyd yr wythnos hon
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gyfarfod fore Gwener yr wythnos hon pe bai'n dymuno gwneud hynny, er mwyn trafod mesurau newydd coronafeirws gyda'r Gweinidog Iechyd, y Prif Swyddog Meddygol a'r Prif Gynghorydd Gwyddonol.